Cartref - Gwe-ddarllediadau Cyngor Sir Ynys Môn

Gorolwg o'r Gwe-Ddarlledu 

Yn dod yn fuan

Pwyllgor Gwaith

Maw, 6 Ion 2026 - 2:00 pm
Pwyllgor Gwaith
06/01/2026 2.00 o'r gloch
Committee Room, Council Offices, Llangefni

Pwyllgor Gwaith

Maw, 16 Rhag 2025 - 10:00 am
Pwyllgor Gwaith
16/12/2025 10.00 o'r gloch
Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Pwyllgor Penodiadau

Llu, 15 Rhag 2025 - 9:00 am
Pwyllgor Penodiadau - 15.12.25 am 9.00 am

We-Ddarlledu Diweddar

Cyngor Sir Ynys Môn

Maw, 9 Rhag 2025 - 2:00 pm
Cyngor Sir Ynys Môn
09/12/2025 2.00 o'r gloch
Council Chamber - Council Offices

Croeso 

Croeso

Mae'r Cyngor yn gwe-ddarlledu ei brif gyfarfodydd pwyllgor, gan gynnwys;  

  •  Y Cyngor Llawn 
  • Pwyllgor Gwaith
  • Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
  • Pwyllgor Polisi Cynllunio
  • Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
  • Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
  • Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
  • Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd    
  • Pwyllgor Safonau
  • Cyngor Ymghyghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

 

Yma cewch wylio gwe-ddarllediadau o gyfarfodydd byw a chyfarfodydd wedi’u harchifo.

 

Beth yw gwe-ddarllediad?

Ystyr gwe-ddarlledu yw darlledu fideo a sain ar y rhyngrwyd. Bydd camerâu yn Siambr y Cyngor a’r Ystafell Bwyllgor yn cofnodi'r drafodaeth fyw a bydd modd i'r sawl sydd am wylio wneud hynny trwy fynd i wefan y Cyngor.

 

Sut ydw i'n gwylio gwe-ddarllediad?

Os oes gennych gysylltiad â'r rhyngrwyd gallwch wylio'r cyfarfodydd heb adael eich cartref. Gallwch wylio'r cyfarfodydd wrth iddynt ddigwydd ac am hyd at 12 mis ar ôl hynny. Hefyd, ar dudalen y gwe-ddarllediad fe welwch ddolenni i agenda ac adroddiadau'r cyfarfod rydych chi'n ei wylio a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ichi ynghylch y materion a drafodir.

 

Archif Cyfarfodydd

 Os ydych yn colli cyfarfod neu os ydych am wylio rhan neu'r cyfan ohono eto gallwch wneud hynny hyd at 12 mis ar ôl dyddiad y cyfarfod. Mae'r pwyntiau mynegai yn caniatáu ichi gyrchu eitem benodol ar yr agenda neu siaradwr penodol.

 

Adborth

Cyflwynwch sylwadau ac adborth ynghylch y gwe-ddarllediadau trwy ddefnyddio'r ffurflen adborth ar waelod tudalen y gwe-ddarllediad.

Fe welwch y cyfarfodydd diweddar a rhai'r dyfodol ar ochr chwith y dudalen hon. Cliciwch ar deitl y cyfarfod rydych chi am ei wylio. I weld cyfarfodydd cynharach, dewiswch y ddolen isod.  Gweld rhestr o we-ddarllediadau wedi’u harchifo yn y 12 mis diwethaf.